Session 10: Use of Welsh

Mae`r stori`n dechrau gyda goleuadau glas sy`n fflachio a damwain ofnadwy

        The story begins with flashing blue lights and a dreadful accident

Dim ond un goroeswr sydd

         There is only one survivor

Yna byddwn yn darganfod sut y cyrhaeddodd dyn ifanc diniwed Alun Brady y pwynt hwn

         We then discover how an innocent young man Alun Brady reached this point

Mae`n byw`n gyffyrddus gyda`i rieni yng Nghaerdydd

         He lives comfortably with his parents in Cardiff

Nid yw Alun yn cael ei wobrwyo am ei ymdrechion i wneud y peth iawn

         Alun is not rewarded for his efforts to do the right thing

Mae`n ei gael ei hun yn y carchar

         He finds himself in prison

Mae`n ddigartref ac yn ddi-waith pan gaiff ei ryddhau

         He is homeless and unemployed when he is released

Wrth iddo grwydro trwy Gaerdydd, mae`n camgymryd gofalwr mewn mynwent, Floyd, am ffrind dibynadwy

         As he wanders through Cardiff, he mistakes a caretaker in a graveyard, Floyd, for a trustworthy friend

Mae carchar yn ei adael yn hiraethus am fywyd teuluol, ond mae`r berthynas gyda`i frawd hŷn, llawfeddyg, yn anodd iawn

         Prison leaves him nostalgic for family life, but the relationship with his older brother, a surgeon, is very difficult

Mae Alun wedi gwneud taith o`r dosbarth canol i is-ddosbarth y ddinas, i ddarganfod y gall y ddau ohonyn nhw bod yn bwdr

         Alun has made a journey from the middle class to the city`s underclass, to find that they can both be rotten

Nofel bwerus a dofn yw hon

         This is a powerful and deep novel

Mae`n dangos i ni sut y gall bywyd undonog gael ei gynhyrfu`n llwyr gan ddigwyddiadau annisgwyl

         It shows us how a monotonous life can be completely upset by unexpected events